Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Mehefin 2024
Amser:
09.03 -
09.43
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Russell George AS Jane Hutt AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru Lisa Griffiths, Gwasanaethau y Siambr a Phwyllgorau Llinos Madeley, Clerc, Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Roedd Russell George yn bresennol ar ran Darren Millar.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Y cyd-destun a'r dull gweithredu ar gyfer cyfnod yr Adolygiad o Wariant nesaf (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng Ddwy Flynedd yn Ddiweddarach (45 munud)
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu cydnabod presenoldeb Mme. Nathalie Roy, Présidente de l'Assemblée nationale du Québec yn yr oriel gyhoeddus ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn.
· Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm
Dydd Mercher
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i newid aelodau Plaid Cymru ar nifer o bwyllgorau i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.
Felly, cytunwyd ar y newid a ganlyn i agenda dydd Mercher:
· Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau (5 munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 25 Mehefin 2024
· Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) (5 munud)
Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 3 Gorffannaf 2024
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad ar wasanaethau rheilffyrdd a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru 2023-24 (60 munud)
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 19 Mehefin:
NNDM8566
Delyth Jewell
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu bod poen corfforol ac emosiynol menywod yn cael ei normaleiddio yn eu gofal iechyd, yn ogystal â'r disgwyliad bod poen yn agwedd anffodus ar iechyd menywod ond yn un na ellir ei hosgoi.
2. Yn credu, drwy ymgynghori â gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod, y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol anelu at leihau sefyllfaoedd lle y mae poen yn ddisgwyliedig ac yn cael ei dderbyn fel rhywbeth normal yng ngofal iechyd y GIG.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cryfhau'r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau'r GIG yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched;
b) sefydlu gofyniad cyfreithiol i ddarparwyr gofal iechyd gasglu adborth yn rheolaidd gan gleifion benywaidd am eu profiadau a'u bodlonrwydd â'r gofal a gânt, yn enwedig mewn perthynas ag apwyntiadau gynaecolegol, bydwreigiaeth a gwasanaethau ôl-enedigol, iechyd meddwl amenedigol a menopos; ac
c) cyflwyno rhwymedigaethau statudol ar gyfer datblygu, cydgysylltu a gweithredu'r Cynllun Iechyd Menywod a ddatblygwyd gan GIG Cymru y mae gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod wedi ymgynghori arno, a ddylai gynnwys mesurau i fynd i'r afael â normaleiddio poen ym maes gofal iechyd menywod, ac i’w atal.
A NNDM8600 (Sian Gwenllian) ar 3 Gorffennaf:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pryderon a gaiff eu codi’n rheolaidd gan Aelodau o’r Senedd am ddiffyg argaeledd gwasanaethau deintyddol y GIG.
2. Yn nodi’r rhwystrau a ddogfennir a’r argymhellion a wneir ar gyfer y ffordd ymlaen yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth.
3. Yn nodi’r heriau penodol yn ymwneud gyda chynllunio, hyfforddi, recriwtio a chadw deintyddion yng Nghymru.
4. Yn nodi cyhoeddi y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ym Mai 2024 a’r cyfeiriadau a wneir yn y cynllun hwnnw, yn benodol:
a) fod Cymru yn fewnforiwr net o ddeintyddion;
b) fod Cymru yn dibynnu ar ysgolion deintyddol y tu hwnt i Gymru i gynhyrchu digon o ddeintyddion i’w recriwtio i’r gweithlu; ac
c) mai’r Deyrnas Unedig sydd â’r nifer isaf o ddeintyddion fesul person o’i gymharu ag aelodau mawr eraill y G7 yn Ewrop.
5. Yn nodi fod nifer y lleoedd yn yr unig ysgol ddeintyddol yng Nghymru wedi’u cyfyngu bob blwyddyn.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi prifysgol ar gyfer deintyddion yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Mark Drakeford, Adam Price, Jane Dodds a Paul Davies yn cynnwys cynnig i dreialu fformat achlysurol newydd ar gyfer dadleuon y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, a chytunwyd y byddai'r ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno papur i'w ystyried ymhellach. Mynegodd y Rheolwyr Busnes awydd i drafod y cynnig hwn a dewisiadau eraill posibl gyda'u grwpiau cyn penderfynu a ddylid treialu unrhyw ddull newydd.
Trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y posibilrwydd y bydd angen cynnal adolygiad gweithdrefnol llawn o'r broses cydsyniad deddfwriaethol a Rheol Sefydlog 29.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i fwrw ymlaen â'i ystyriaeth bresennol o ddiwygiadau posibl i Reol Sefydlog 29.1 fel darn o waith ar wahân, ac ymateb i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i gynnig efallai mai’r pwyllgor hwnnw yw’r corff mwyaf priodol i ystyried materion ehangach yn ymwneud â'r broses gydsynio deddfwriaethol, y tu allan i ddiwygiadau penodol i’r Rheolau Sefydlog, a gofyn a yw'r Pwyllgor o'r farn y byddai ganddo'r gallu i ymgymryd â'r gwaith hwnnw.
Trafododd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft yn cynnwys cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau cadeirio Pwyllgor y Llywydd, a chytunodd arno, ac i gyflwyno cynnig yn argymell bod y Senedd yn cytuno ar y newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog.
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur yn ei wahodd i gadarnhau y dull a ffefrir ganddo o ran rhannu swyddi cadeiryddion pwyllgorau a chytunodd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod dilynol i alluogi Rheolwyr Busnes i drafod yr opsiynau gyda'u grwpiau.